Strategaeth Iechyd a Lles
Tair blynedd yn ôl, lansiodd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd ei Strategaeth gyntaf, sef Gwell Iechyd - Gwell Gwynedd. Mae gweithredu'r Strategaeth honno wedi gwella cydweithio ar draws sefydliadau'r Bartneriaeth, yn enwedig drwy gryfhau y rôl y bydd pob un o wasanaethau'r sector gyhoeddus yn ei chwarae wrth atal salwch a gwella lles.
Nod yr ail Strategaeth, sef Cyflawni'r Weledigaeth gyda'n Gilydd, yw adeiladau ar lwyddiannau'r Strategaeth gyntaf. Mae gweledigaeth hir dymor y Bartneriaeth yn parhau'r un fath, sef "anelu at iechyd a lles i bobl Gwynedd sy'n cymharu â'r gorau yn Ewrop". Cliciwch ar yr atodiadau ar waelod y dudalen hon er mwyn darllen y strategaeth.
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, mae angen asesu y sefyllfa gyfredol yn ofalus mewn cymhariaeth ag Ewrop, datblygu a gweithredu camau i sicrhau bod y gwasanaethau iawn ar gael i ateb anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth yn awr ac yn y dyfodol. Cydnabyddir bod angen gwella'n sylweddol er mwyn cymharu gyda'r gorau yn Ewrop.
Prif flaenoriaethau'r Strategaeth yw:
- mynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy'n dylanwadu ar iechyd
- hybu ffordd o fyw iach
- ail gynllunio darpariaeth gwasanaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn cwrdd yn well ag anghenion y boblogaeth
Mae'n angenrheidiol fod y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Awdurdod lleol yn cydweithio gyda mudiadau iechyd eraill megis yr Ymddiriedolaeth GIG, Comisiwn Iechyd Cymru (Gwasanaethau Arbenigol) a'r Cyngor Iechyd Cymdeithas wrth baratoi a gweithredu'r Strategaeth. Byddant hefyd yn gweithio â'r Cyngor Gwirfoddol Lleol ac unrhyw gorff gwirfoddol, busnes neu breifat sydd â diddordeb mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles, gan gynnwys grwpiau cymunedol er mwyn sicrhau llwyddiant.
Yng Ngwynedd rydym wedi datblygu ffordd o gydweithio, ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd Lleol.








