Afiechydon
Mae gwneud dewisiadau’n rhan o fywyd bob bydd ond cofia y dylet ti gael yr holl ffeithiau cyn gwneud penderfyniad.
FFAITH: Mae heintiau sy'n cael eu trosglwyddo'n rhywiol yn un o brif achosion salwch a marwolaeth ar draws y byd. Mae cyfraddau HIV yng Ngwynedd ymysg yr uchaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe.Cael rhyw am y tro cyntaf ydy un o'r penderfyniadau mawr hynny - ella dy fod yn meddwl bod llawer yn cael rhyw, ond dydy hynny ddim yn wir. Nid yw 3 o bob 4 person ifanc dan 16 oed yn cael rhyw.
Afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol
I gael mwy o wybodaeth am heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol a sut i ddiogelu dy hun, dilyna ein canllaw ar gyfer cael rhyw diogel.
Os wyt ti’n penderfynu cael rhyw, cofia mai dy gyfrifoldeb di ydy cael rhyw diogel – cymera gipolwg ar wefan yr FPA, mae’r FPA yn elusen iechyd rhywiol sydd yn gweithio i wella iechyd rhywiol pawb sydd yn byw yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban ac Gogledd Iwerddon. Fel arall dos am sgwrs gyda dy feddyg_neu'r_clinig_cynllunio_teulu , fe wna’n rhoi cyngor am ddim a chyfrinachol i ti.






