Pobl Hŷn
Mae’r adran hon o wefan Her Iechyd Gwynedd yn arbennig ar gyfer pobl hŷn Gwynedd yn llawn gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn y sir.
Yn dilyn ymgynghori â phobl hŷn dros y flwyddyn ddiwethaf mewn cyfarfodydd grwpiau fel Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd mae wedi dod i’r amlwg fod galw am wybodaeth o’r math yma. Gellir defnyddio’r wefan ar gyfer cyfeirio pobl tuag at ymhle mae’n bosib derbyn gwybodaeth bellach, mae hyn hyd yn oed yn haws gan fod manylion cyswllt sawl mudiad yn yr adran cysylltiadau.
Mae’n gyfle i ddathlu eich bod dros 50 oed ac yn ffodus eich bod yn gallu heneiddio’n dda ym mhrydferthwch Gwynedd.
Cyn cloi, fel Pencampwr Pobl Hŷn Gwynedd a Chadeirydd Cyngor Pobl Hŷn Gwynedd hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i sôn am ein swyddogaeth. Mae ein rôl yn golygu byddem yn:
- Gwrando ar bobl hŷn
- Gwrando ar bobl hŷn
- Gwrando ar bobl hŷn
Mae croeso ichi gysylltu â ni:
- I sôn am eich profiad o’r gwasanaethau rydych wedi’i dderbyn
- I ddweud wrthym am y materion rydych yn meddwl sy’n bwysig i bobl hŷn yng Ngwynedd
Os oes gennych sylwadau pellach cysylltwch â staff Strategaeth Pobl Hŷn Gwynedd drwy ffonio 01286 679731 neu drwy e-bostio.







