Iechyd da Gwynedd
Dydd Iau, 17 Medi 2009

Bydd Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i hybu ffordd iach o fyw o 21 hyd 26 Medi fel rhan o Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau amrywiol wedi eu trfenu ar gyfer yr wythnos gyda’r nod o annog unigolion i wneud newidiadau i’r ffordd maent yn byw er budd eu hiechyd.
Dywedodd Llinos Owen, Hwylusydd Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd:
“Ein bwriad gyda’r wythnos yw creu bwrlwm o ddigwyddiadau a gwybodaeth am bob math o bethau sy’n effeithio ar iechyd pobl Gwynedd.
“Rydym yn awyddus i bobl ddeall y gall camau bychan wneud byd o wahaniaeth i’w iechyd - newidiadau syml fel cymryd llai o halen yn eu bwyd, ychydig o ymarfer corff rheolaidd a bod yn ymwybodol o’r cyngor sydd ar gael iddynt.”
Yn ystod yr wythnos, mae cyfres o weithgareddau amrywiol wedi eu trefnu gyda phartneriaid sy’n cynnwys:
- Amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys chwarae rhydd, paentio, wal ddringo, castell neidio, beic smwddis ac anrheg i bob plentyn a llawer mwy sydd wedi eu trefnu gyda Swyddog Chwarae Gwynedd, Ceri Jones yng Nghanolfan Hamdden Arfon yng Nghaernarfon. Mae gweithgareddau ymlaen ar ddydd Mercher, 23 Medi o 3.30pm tan 4.30pm ac ar ddydd Sadwrn, 26 Medi o 12.30pm tan 2.30pm.
- Her Clybiau Gwynedd a noddir gan Gynghrair Her Iechyd Gwynedd. Wedi ei drefnu ar y cyd gyda Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Gwynedd, mae’r gweithgareddau yn cynnwys -
- Her Clybiau Gwynedd a noddir gan Gynghrair Her Iechyd Gwynedd. Wedi ei drefnu ar y cyd gyda Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Gwynedd, mae’r gweithgareddau yn cynnwys -
- 21 Medi: Tennis cadair olwyn oedran 10+ yng Nghanolfan Tennis, Caernarfon o 6pm hyd 7pm
- 25 Medi: Dringo ar gyfer holl anableddau oedran 8+ yng Nghanolfan Hamdden y Pafiliwn yn Abermaw o 5pm hyd 6pm
- 26 Medi: Hwylio ar gyfer unigolion sy’n ddall neu sy’n gweld yn rhannol oedran 14+, ym Mhlas Menai, Canolfan Dwr Cenedlaethol o 1pm hyd 4.30pm - Bydd beic smwddis (sy’n creu smwddi wrth ichi feicio) yn ymweld ag ysgolion uwchradd amrywiol yn ystod yr wythnos, gan blethu i mewn i waith Swyddogion 5x60 y Cyngor
- Sesiwn Iechyd a Lles i Ofalwyr gwirfoddol. Ar ddydd Gwener, 25 Medi cynhelir sesiwn addysgol yn bore am agweddau bwyta’n iach a maeth a sesiwn blasu cerdded Nordaidd yn y prynhawn. Cynhelir y digwyddiad sydd wedi ei drefnu ar y cyd gyda Gwasaneth Cynnal Gofalwyr Gwynedd yng Nghapel y Drindod Pwllheli o 10.15am hyd 2.30pm
- Lansiad Rhaglen MEND diweddaraf - MEND – Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth... Ewch amdani! Cwrs hwyliog i deuluoedd sydd â phlant rhwng 7 a 13 oed sy’n pwyso mwy na’r hyn sy’n iach ar gyfer eu hoed a’u taldra yw MEND. Mae’r Rhaglen yn helpu plant a theuluoedd i reoli eu pwysau’n well a byw bywydau iachach. Fe fydd y cwrs nesaf yn cychwyn diwedd Medi yn Nghanolfan Hamdden Arfon, Caernarfon 5-7pm nos Lun a nos Fercher.
Am ragor o wybodaeth am Wythnos Byw’n Iach yng Ngwynedd, cysylltwch â Llinos Owen ar 01286 679 731 neu ebostiwch:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.








