Rhaglen MEND a Sut i Gyfeirio
Dydd Llun, 07 Medi 2009
Beth yw’r Rhaglen MEND?
MEND – Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth... Ewch amdani!
Cwrs hwyliog i deuluoedd sydd â phlant rhwng 7 a 13 oed sy’n pwyso mwy na’r hyn sy’n iach ar gyfer eu hoed a’u taldra yw MEND. Caiff ei gynnal ddwywaith yr wythnos ar ôl ysgol ar ffurf sesiynau dwy awr dros 10 wythnos.
Mae’r Rhaglen yn helpu plant a theuluoedd i reoli eu pwysau’n well a byw bywydau iachach. Fe’i datblygwyd gan arbenigwyr iechyd plant ac mae ymchwil yn dangos ei fod yn wir yn gweithio. Gyda chefnogaeth eu rhieni neu ofalwyr, mae plant yn dysgu sut i wella eu hiechyd, ffitrwydd a’r ffordd maen nhw’n teimlo am eu cyrff.
Pan fydd teulu’n ymuno â Rhaglen MEND, byddwn yn eu dysgu am faeth a sut i fwyta diet cytbwys. Byddwn hefyd yn eu helpu i ddysgu sut i fod yn fwy egniol, a dangos iddyn nhw ychydig o driciau’r meddwl i’w helpu i gadw’n frwdfrydig. Byddwn yn eu helpu i newid pethau’n raddol fel y gallan nhw gadw at eu ffordd o fyw newydd iach a dangos sgiliau iddyn nhw newid eu hagweddau at fwyd ac ymarfer corff fel y gallan nhw deimlo’n fwy ffit, yn fwy iach ac yn fwy hapus - am byth.
Bydd rhaglenni’n cychwyn:
Canolfan Hamdden Arfon, Caernarfon : Dydd Llun a dydd Mercher 5yh – 7yh o ddydd Llun y 21ain o Fedi ymlaen. Plas Arthur , Llangefni : Dydd Mawrth 5yh – 7 yh o ddydd Mawrth 22ain o Fedi ymlaen.
Mae croeso cynnes i blant rhwng 7 a 13 oed y mae eu pwysau’n ddrwg i’w hiechyd. Dylid nodi nad yw’r Rhaglen yn addas ar gyfer plant gydag unrhyw gyflwr meddygol, datblygiadol, seiciatrig neu gorfforol difrifol.
Gall Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gyfeirio drwy ffonio 0800 230 0263 a gall teuluoedd ddysgu mwy a’u cyfeirio eu hunain yn MEND. Fel arall gallwch ffonio swyddfa Ganolog MEND am ddim ar 0800 230 0263 neu’r Adran Dieteteg ar 01248 384103.
Dyma’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cyfeirio rhywun:
- Enw, rhyw, dyddiad geni, taldra a phwysau’r plentyn
- Enw, rhif ffôn cartref a/neu symudol a chyfeiriad y rhieni
- Ysgol a blwyddyn ysgol
- Manylion cyswllt meddyg teulu
- Unrhyw gyflwr meddygol, corfforol neu seicolegol arall a allai effeithio ar ei allu i gymryd rhan yn y grŵp
Edrychwn ymlaen at dderbyn manylion y rhai yr ydych yn eu cyfeirio ac rydym yn llawn cyffro ynglŷn â dechrau’r fenter hon yn yr ardal.
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Pennaeth Dieteteg / Rheolwr Rhaglenni Lleol








