Newyddion

Amcangyfrifir bod dros ddwy ran o dair o ysmygwyr am roi’r gorau iddi.
Mae arbenigwyr Dim Smygu Cymru yn gwybod pa mor anodd yw hi i roi’r gorau iddi. Ond pan fyddwch yn barod, ni fyddwch ar eich pen eich hun. Mae Dim Smygu Cymru’n cynnig cefnogaeth GIG cyfeillgar, lleol, am ddim, sy’n gweithio.
Postiwyd ar 9 Ion, 2010
Bydd Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i hybu ffordd iach o fyw o 21 hyd 26 Medi fel rhan o Wythnos Genedlaethol Byw’n Iach.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau amrywiol wedi eu trfenu ar gyfer yr wythnos gyda’r nod o annog unigolion i wneud newidiadau i’r ffordd maent yn byw er budd eu hiechyd.
Dywedodd Llinos Owen, Hwylusydd Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd:
“Ein bwriad gyda’r wythnos yw creu bwrlwm o ddigwyddiadau a gwybodaeth am bob math o bethau sy’n effeithio ar iechyd pobl Gwynedd.
“Rydym yn awyddus i bobl ddeall y gall camau bychan wneud byd o wahaniaeth i’w iechyd - newidiadau syml fel cymryd llai o halen yn eu bwyd, ychydig o ymarfer corff rheolaidd a bod yn ymwybodol o’r cyngor sydd ar gael iddynt.”
Yn ystod yr wythnos, mae cyfres o weithgareddau amrywiol wedi eu trefnu gyda phartneriaid sy’n cynnwys:
- Amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys chwarae rhydd, paentio, wal ddringo, castell neidio, beic smwddis ac anrheg i bob plentyn a llawer mwy sydd wedi eu trefnu gyda Swyddog Chwarae Gwynedd, Ceri Jones yng Nghanolfan Hamdden Arfon yng Nghaernarfon. Mae gweithgareddau ymlaen ar ddydd Mercher, 23 Medi o 3.30pm tan 4.30pm ac ar ddydd Sadwrn, 26 Medi o 12.30pm tan 2.30pm.
- Her Clybiau Gwynedd a noddir gan Gynghrair Her Iechyd Gwynedd. Wedi ei drefnu ar y cyd gyda Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Gwynedd, mae’r gweithgareddau yn cynnwys -
- Her Clybiau Gwynedd a noddir gan Gynghrair Her Iechyd Gwynedd. Wedi ei drefnu ar y cyd gyda Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cyngor Gwynedd, mae’r gweithgareddau yn cynnwys -
- 21 Medi: Tennis cadair olwyn oedran 10+ yng Nghanolfan Tennis, Caernarfon o 6pm hyd 7pm
- 25 Medi: Dringo ar gyfer holl anableddau oedran 8+ yng Nghanolfan Hamdden y Pafiliwn yn Abermaw o 5pm hyd 6pm
- 26 Medi: Hwylio ar gyfer unigolion sy’n ddall neu sy’n gweld yn rhannol oedran 14+, ym Mhlas Menai, Canolfan Dwr Cenedlaethol o 1pm hyd 4.30pm - Bydd beic smwddis (sy’n creu smwddi wrth ichi feicio) yn ymweld ag ysgolion uwchradd amrywiol yn ystod yr wythnos, gan blethu i mewn i waith Swyddogion 5x60 y Cyngor
- Sesiwn Iechyd a Lles i Ofalwyr gwirfoddol. Ar ddydd Gwener, 25 Medi cynhelir sesiwn addysgol yn bore am agweddau bwyta’n iach a maeth a sesiwn blasu cerdded Nordaidd yn y prynhawn. Cynhelir y digwyddiad sydd wedi ei drefnu ar y cyd gyda Gwasaneth Cynnal Gofalwyr Gwynedd yng Nghapel y Drindod Pwllheli o 10.15am hyd 2.30pm
- Lansiad Rhaglen MEND diweddaraf - MEND – Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth... Ewch amdani! Cwrs hwyliog i deuluoedd sydd â phlant rhwng 7 a 13 oed sy’n pwyso mwy na’r hyn sy’n iach ar gyfer eu hoed a’u taldra yw MEND. Mae’r Rhaglen yn helpu plant a theuluoedd i reoli eu pwysau’n well a byw bywydau iachach. Fe fydd y cwrs nesaf yn cychwyn diwedd Medi yn Nghanolfan Hamdden Arfon, Caernarfon 5-7pm nos Lun a nos Fercher.
Am ragor o wybodaeth am Wythnos Byw’n Iach yng Ngwynedd, cysylltwch â Llinos Owen ar 01286 679 731 neu ebostiwch:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Beth yw’r Rhaglen MEND?
MEND – Meddwl, Ymarfer Corff, Maeth... Ewch amdani!
Cwrs hwyliog i deuluoedd sydd â phlant rhwng 7 a 13 oed sy’n pwyso mwy na’r hyn sy’n iach ar gyfer eu hoed a’u taldra yw MEND. Caiff ei gynnal ddwywaith yr wythnos ar ôl ysgol ar ffurf sesiynau dwy awr dros 10 wythnos.
Mae’r Rhaglen yn helpu plant a theuluoedd i reoli eu pwysau’n well a byw bywydau iachach. Fe’i datblygwyd gan arbenigwyr iechyd plant ac mae ymchwil yn dangos ei fod yn wir yn gweithio. Gyda chefnogaeth eu rhieni neu ofalwyr, mae plant yn dysgu sut i wella eu hiechyd, ffitrwydd a’r ffordd maen nhw’n teimlo am eu cyrff.
Postiwyd ar 7 Medi, 2009
Mae’r llyfr rysetiau coginio hwn wedi ei greu i gyd fynd â chyrsiau sgiliau coginio Her Iechyd Gwynedd.
Mae Cynghrair Her Iechyd Gwynedd yn ddiolchgar iawn i gronfa Cymorth am gefnogaeth ariannol i gynnal y cyrsiau sgiliau coginio ac hefyd i Anwylyd Jones, hyfforddwraig sgiliau coginio sydd wedi cyfrannu yn helaeth tuag at y rysetiau. Diolch hefyd am fewnbwn y dietegydd Pauline Rigby.
Postiwyd ar 18 Meh, 2009Mae pawb yn haeddu cael eu trin ag urddas a nod cynllun newydd fydd sicrhau fod pobl hŷn a bregus yn ein cymuned yn cael eu trin gyda’r un parch â phawb arall.
Lansiwyd Siarter Urddas a Pharch, sy’n amlinellu hyn, mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd rhwng Cymunedau Iechyd a Gofal Gwynedd a Môn – sef grŵp sy’n darparu gwasanaethau iechyd – yn Technium Cast, Parc Menai, Bangor 3 Ebrill 2009.
Postiwyd ar 14 Mai, 2009Cydnabyddir fod bwydo o’r fron yn ffordd ardderchog o roi’r cychwyn gorau posib i blant mewn bywyd.
Mewn arolwg diweddar o famau lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru nododd 75% mai’r ymyrraeth fwyaf buddiol ar gyfer cefnogi mamau newydd i fwydo o’r fron fyddai rhwydwaith o leoliadau sydd yn croesawu teuluoedd sydd yn bwydo o’r fron.
Postiwyd ar 8 Mai, 2009Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymweld â Gwynedd
Mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru wedi ymweld Gwynedd fel rhan o daith i gasglu gwybodaeth am faterion amrywiol faterion sy’n cael effaith ar fywyd pobl hŷn yng Nghymru.
Postiwyd ar 27 Ebr, 2009Newid am oes
Newid am Oes - Mae Adran Iechyd yn Lloegr wedi cyhoeddi 'Newid am Oes', sydd yn anelu i alluogi teuluoedd i fwyta’n gall, symud yn fwy rheolaidd a byw’n hirach. Am wybodaeth lleol ar fwyta’n iach ac ymarfer egniol dilynwch y linciau o’r dudalen gartref.
Darganfyddwch mwy ar wefan Newid am oes wefan
Postiwyd ar 21 Ion, 2009North Wales Energy Efficiency Advice Centre
Mae’r ganolfan Gynghori Effeithlonrwydd Ynni yn cynnig cymorth i bobl Gogledd Cymru ar sut i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r egni yn eu cartrefi. Mae ganddynt wybodaeth gyfredol ar y mathau o grantiau neu gefnogaeth y gallwch fod yn gymwys i’w derbyn ynghyd a beth gall y cwmnïau egni ei gynnig.
Darganfyddwch mwy ar wefan Conolfan Cynghori Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru
Postiwyd ar 8 Rhag, 2008
Mae’r Ymgyrch Gofal Piau Hi Y Gaeaf Hwn yn fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i nod yw eich helpu i gadw’n iach yn ystod y gaeaf a manteisio ar yr help ariannol a’r budd-daliadau sydd ar gael.
Darganfyddwch mwy ar wefan wefan Gofal Piau hi y Gaeaf Hwn
Postiwyd ar 24 Tach, 2008Iechyd da Gwynedd
Bydd Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i hybu ffordd iach o fyw yn ystod mis Tachwedd (2 a 8 Tachwedd) fel rhan o Wythnos Byw’n Iach sy’n cael ei drefnu gan gan Lywodraeth y Cynulliad.
Postiwyd ar 5 Tach, 2008Darllen mwy...
Tudalen 1 o 2








